Please visit our booking page or get in touch:

01267 253 355

07964 564 939

dominic@rhiwiau.cymru

Sylwadau? Croeso!

4 Mawrth 2024

Er fod e wedi cymryd amser mae’r wefan hon yn gyffredinol, a’r tudalennau blog hyn yn arbennig, wedi bod yn newid a (gobeithio) gwella. Mae croeso o hyn ymlaen i ddarllenwyr ac ymwelwyr i’r safle hon ddweud ei ddweud a mae system o Bostio Sylwadau wedi’i gynnwys yma am y tro cyntaf ar waelod y tudalen – am yr hyn ysgrifennir yma. Diolch unwaith eto i George – prif beirianydd y wefan hon – am ei gymorth a chyngor am sut i wneud y pethau hyn.

Felly – dyma rywbeth i chi fwynhau am y tro – ac mae croeso i chi ymateb os teimlwch chi fel’ny. Diolch!

Golygfa mis Chwefror – yn dangos y llifogydd diweddar yn y cwm, ein ci (Sophe) a’r fynedfa i’r hen lôn oedd yn rhedeg o’r tŷ (Rhiwiau) ar hyd y cwm cyn/neu yn ogystal â’r heol fodern, bresennol sy’n rhedeg yn gyfochrog ar ochr draw yr afon – o flaen fferm gwelwch chi yn y ffoto. Fe welwch chi ei holion ar yr hen fap OS isod.


0 0 votes
Gwerthuso erthygl
Subscribe
Notify of
guest
1 Sylwadau
Oldest
Newest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
Aneirin Karadog
Aneirin Karadog
4 months ago

Yn y Sgubor ces dymor da, lle iach
A lloches drwy’r eira;
Yn ei nef, hydref neu ha’,
Gwres awen a groesawa.

4/3/2024

1
0
Beth ydych chi'n feddwl/please let us know what you think.x
()
x