Please visit our booking page or get in touch:

01267 253 355

07964 564 939

dominic@rhiwiau.cymru

Rhiwiau – croeso

Llety hunan-arlwyo ar ymyl coedwig Brechfa, Sir Gâr. Lle ar gyfer rhwng dau a phump i gysgu mewn dwy stafell wely. Croeso i anifeiliaid anwes.

Yn Rhiwiau, Llanllawddog, lleolir y llety tua wyth milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin – agos i goedwig Brechfa – gweler Ffeindio ni yn y ddewislen uchod.

Tua Rhiwiau o waelod y cwm yn y gwanwyn

Beth sy ar gael?

Y llety

Mae’r llety’n rhoi i chi eich lle eich hunan. Dewch a mynd fel y mynnwch. Mae mynedfa a pharcio personol i chi. Rydyn ni’n byw ar y safle (ar draws yr iard) ac felly os oes angen i chi holi rhywbeth fe fyddwn ni yna i helpu. Os ydych chi wedi anghofio rhywbeth – wel gofynnwch. Rydyyn ni bob amser yn hapus i siarad ond hefyd wrth gwrs i barchu eich preifatrwydd a’ch angen am ychydig o heddwch a thawelwch.

Fe welwch hen ysgubor – ond un sy wedi’i hadnewyddu’n lân, eang a chyfforddus – yn ddelfrydol ar gyfer seibiant byr neu wythnos i ffwrdd.

Golwg dros Riwiau – llety yn y sgubor ar y dde

Faint ydych chi’n dalu?