Llety hunan-arlwyo ar ymyl coedwig Brechfa, Sir Gâr. Lle ar gyfer rhwng dau a phump i gysgu mewn dwy stafell wely. Croeso i anifeiliaid anwes.
Yn Rhiwiau, Llanllawddog, lleolir y llety tua wyth milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin – agos i goedwig Brechfa – gweler Ffeindio ni yn y ddewislen uchod.
Tua Rhiwiau o waelod y cwm yn y gwanwyn
Beth sy ar gael?
Dwy ystafell wely – un gyda gwely dwbl, maint brenin (ar lawr mezzanine), un (llawr gwaelod) gyda bync (i ddau berson) yn ogystal â gwely sengl.
Ystafell fyw cynllun agored gyda chyfarpar da – wi-fi, teledu a bwrdd tennis bwrdd
Cawod cerdded mewn
Toiled a stafell olchi (gan gynnwys peiriant golchi)
Dŵr poeth a gwresogi canolog
Y llety
Mae’r llety’n rhoi i chi eich lle eich hunan. Dewch a mynd fel y mynnwch. Mae mynedfa a pharcio personol i chi. Rydyn ni’n byw ar y safle (ar draws yr iard) ac felly os oes angen i chi holi rhywbeth fe fyddwn ni yna i helpu. Os ydych chi wedi anghofio rhywbeth – wel gofynnwch. Rydyyn ni bob amser yn hapus i siarad ond hefyd wrth gwrs i barchu eich preifatrwydd a’ch angen am ychydig o heddwch a thawelwch.
Fe welwch hen ysgubor – ond un sy wedi’i hadnewyddu’n lân, eang a chyfforddus – yn ddelfrydol ar gyfer seibiant byr neu wythnos i ffwrdd.
Golwg dros Riwiau – llety yn y sgubor ar y dde
Faint ydych chi’n dalu?
£85 y noson i ddau – tâl ad-daladwy – bwcio am o leiaf tair nos. Hynny yw – £255 i ddau am dair nos – tâl ad-daladwy
£76.50 yw’r tâl i ddau am y nos am o leiaf tair nos. Felly £230 yw’r tâl di-ddaladwy i ddau am dair nos
Mae £20 ychwanegol y nos yn daladwy ar gyfer pob person ychwanegol hyd at uchafswm o bump.
Ewch i’r tudalen Bwcio am wybodaeth a gostyngiadau ychwanegol