Please visit our booking page or get in touch:

01267 253 355

07964 564 939

dominic@rhiwiau.cymru

Ffeindio ni

Cludiant – preifat a chyhoeddus

Mae’r sgubor yn hawdd i’w chyrraedd mewn car o’r M4 neu’r A40 – neu o’r gogledd ar hyd yr A485 – 20 munud mewn car o Gaerfyrddin, ein tref agosaf. Edrychwch ar fap Google isod.

Mae Satnav yn bendant yn gamarweiniol os ydych chi’n ceisio defnyddio cod post yr eiddo. Peidiwch, os gwelwch yn dda! Yn hytrach cliciwch ar y ddolen hon https://bityl.co/DwIl neu ar y ddolen Directions ar y map isod.

Neu os yw’n well gennych, cysylltwch yn uniongyrchol am gyfarwyddiadau. Gallwn anfon y ddolen GPS atoch drwy e-bost neu mewn neges. Dyma gyfeiriad map SN 47712 28484 os mai dyna yw eich arddull. Dyma’r ddolen at fap ar-lein yr OS https://bityl.co/DwIs. Cliwciwch yma a bydd map OS yn agor. Chwyddwch y map a dyna ni!

Dyw trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn wych ond mae’n bosib. Mae bysus TrawsCymru o orsaf Caerfyrddin i Aberystwyth yn mynd heibio i arhosfan bysiau yn rheolaidd sydd tua 3 milltir yn bell o’r ysgubor. Os ystyriwch ddod ar drafnidiaeth gyhoeddus, halwch neges a gallwn ni weld a fydd yn bosib i ni ddod i’ch hôl chi.

Mae beiciau’n opsiwn da os oes gennych goesau ac ysgyfaint cryf neu fodur trydan.

Mae gwasanaeth trên da o Lundain/Abertawe i Gaerfyrddin yn ogystal â chysylltiadau o Fanceinion/Amwythig via Caerdydd i Gaerfyrddin. Mae bysys rhwng Llundain a Chaerfyrddin hefyd yn cynnig dull teithio araf ond mwy fforddiadwy. Mae’r llinell trên Calon Cymru yn cysylltu’r Amwythig ag Abertawe – gyda Llandeilo yr orsaf agosaf ar y llinell honno i’r ysgubor (tua 30 munud i ffwrdd mewn car).