Yn y cymoedd o gwmpas Rhiwiau fe ddewch o hyd i gymdogion cyfeillgar, golygfeydd gwych, a llawer o ddefaid, gwartheg, a bywyd gwyllt. Fe glywir Cymraeg yn cael ei siarad ond byddwch hefyd yn cwrdd â phobl eraill sydd wedi symud i mewn i fyw yma o rywle arall.
Mae’n ardal dawel ond yn fyw gyda gwaith coedwigaeth a ffermio o’ch cwmpas. Rydyn ni’n cerdded a beicio (mynydd a ffordd) yn rheolaidd yn ogystal â marchogaeth yn y coedwigoedd a’r ffyrdd tawel o gwmpas y tŷ – a mae gyda ni fapiau o deithiau cerdded lleol y gallwn ni eu rhannu gyda chi neu edrychwch ar Darganfod Sir Gâr. Ceir llwybrau beicio mynydd sydd o safon uchel yng nghoedwig Brechfa gerllaw. Mae e-beics i’w logi hefyd yn lleol – ewch yma am wybodaeth bellach.
Mae cynnyrch lleol da a rhai llefydd da iawn i’w fwyta. Mae gan bentref cyfagos Brechfa siop gymunedol dda iawn. Am awgrymiadau o lefydd i fwyta cliciwch yma.
O ben bryn cyfagos gallwn ni weld y môr yn y pellter – ryw 12 milltir i fwrdd (fel mae’r cigfran yn hedfan o leiaf). Ond mae llu o draethau lleol i’w mwynhau sy’n werth yr ymdrech. Gallwch gyrraedd llawer ohonyn nhw o fewn tua awr mwy neu lai – efallai ffeindiwch chi’ch hunain yna heb lawer o bobl eraill. Mae’n digwydd – yn berffaith ar gyfer picnic gyda’r nos. Am awgrymiadau cliciwch yma.