Please visit our booking page or get in touch:

01267 253 355

07964 564 939

dominic@rhiwiau.cymru

Anifeiliaid anwes

Ymweld â’ch ci 

Rydym yn falch iawn o allu eich croesawu gyda’ch ci. Mae yna ychydig o reolau er lles pawb yn seiliedig ar ein profiadau gyda chŵn. 

Rhifau  – Nifer mwyaf o gŵn sy’n aros y tu mewn i’r sgubor yw dau. Os ydych chi’n gallu cadw eich cŵn yn eich cerbyd y tu allan efallai y gallwch chi’n dod â mwy os rydych chi wedi trafod hyn gyda ni yn gyntaf. 

Ymddygiad  – RHAID i’ch ci fod o dan reolaeth lwyr ym mhresenoldeb y da byw a’r ceffylau sydd i gyd o gwmpas yr ardal. Rhaid peidio â gadael cŵn ar eu pennau eu hunain yn y llety na’r eiddo cyfagos. 

Taliadau ychwanegol   – I bob ci sy’n cysgu neu’n ymweld y tu mewn i’r llety mae tâl ychwanegol untro o £10.00 y ci. Pwrpas hyn yw cwmpasu’r glanhau ychwanegol anochel. Byddwn yn eich anfonebu ar gyfer hyn am daliad ar ôl cyrraedd a dylech setlo’n syth os gwelwch yn dda.

Trefniadau cysgu  – Defnyddiwch eich gwelyau cŵn eich hun a caets ci os yn bosib. Beth bynnag mae’n rhaid i chi sicrhau nad yw eich ci o dan UNRHYW AMGYLCHIADAU dringo ar unrhyw un o’r celfi – soffas neu gadair freichiau, mynd i fyny’r grisiau neu i mewn i’r ystafell wely lawr grisiau ddefnyddio unrhyw un o’r dillad gwely neu garpedi i gysgu arno

Baw – Rhaid bagio pob baw ci yn syth a’r bag yn cael ei waredu yn y bin sbwriel cyffredinol bag du allan wrth y giât. Bydd angen i chi ddarparu eich bagiau baw eich hun. 

Glân a sych – Gwnewch yn siŵr bod eich ci yn lân ac yn sych pan ddaw i mewn o’r tu allan – mae gennym dywelion cŵn ychwanegol os oes eu hangen arnoch. Efallai y byddwch chi’n defnyddio’r stablau yn yr ardal barcio os oes angen i chi eu glanhau cyn iddyn nhw ddod i mewn.

Gwnewch yn siŵr, os gwelwch yn dda, hefyd, nad yw’r dillad gwely o welyau gwesteion yn mynd ymlaen i’r llawr lle gall godi gwallt; eich bod chi’n rhedeg yr hoover rownd y llawr i godi gwallt cŵn o bryd i’w gilydd ac yn enwedig cyn i chi adael. 

Cerdded gyda’ch cŵn – Mae cyfleoedd cerdded cŵn helaeth a hapus ymhobman – er enghraifft yn y goedwig lle mae’n aml yn bosib rhedeg yn rhydd, ar hyd llwybrau troed a thraciau neu ar lan y môr sydd ddim mor bell â hynny. (Mae rhai cyfyngiadau ar rai traethau yn yr haf. Gwiriwch cyn cynllunio ymweliad). Rydym yn hapus i’ch pwyntio i’r cyfeiriad cywir.