22 Medi 2022
I ddechrau’r blogs’ma – diolch o galon i rywun arbennig iawn – sef George, a wnaeth gymaint wrth sefydlu’r wefan hon – yn deall y gofynion arbennig – bod yn ddwyieithog, syml, diddorol a defynyddiol. Gobeithio bod ni wedi llwyddo i raddau.
Er bod nhw’n cynnig dewis enfawr i’r defnyddiwr, mae pob un o’r sianelau bwcio fel Airbnb yn codi tâl sylweddol ar y llety. Gobeithio fod defnyddio’r wefan hon yn ffordd i gadw arian yn lleol ar yr un pryd â dal i gynnig gwasanaeth a phrofiadau dosbarth cyntaf i ymwelwyr.
Dewch yn llu!
Pob hwyl
Dominic