Please visit our booking page or get in touch:

01267 253 355

07964 564 939

dominic@rhiwiau.cymru

Pysgotwyr hapus

29 Mai 2024

Mae grŵp o bysgotwyr o Loegr newydd ymadael ar ôl tridiau o geisio ddod o hyd i’r eog mawr neu sewin. Heb lwc – ond yn eu ôl nhw – profiad gwerthfawr er hynny – a wel, bron â bachu dau o faint a phwysau a hyd anhygoel. Ger y bont yn Nantgaredig buon nhw – un yn pysgota, gwialen yn ei law, a’r lleill yn craffu’r dyfroedd o ymyl y bont yn ei gyfeirio at y pysgodyn.

Does dim dwywaith am bwysigrwydd y math hyn o pysgotwyr sensitif a gofalus – sy’n caru’r pysgod a charu ecosystemau sy’n eu cynnal. A bu’n bleser mawr clywed a gweld y ffordd buon nhw’n dylunio a chrefftu eu llithiau pluog lliwgar – wedi’u haddasu ar gyfer lliw a chyflwr y dŵr a’r golau.

Diolch i chi, bois.

Daioni – a great fly for sea trout on the Rivers Teifi / Towy and more. Brought to you by Steffan Jones of www.anglingworldwide.com and www.sea-trout.co.uk

0
Beth ydych chi'n feddwl/please let us know what you think.x
()
x