31 Hydref 2022
Mae Adar Sir Gaerfyrddin newydd ddod. Llyfryn blynyddol o gofnodion y Carmarthenshire Bird Club yn hytrach na haid o’r creaduriaid pluog – yr hyn a welwyd yn ystod 2021-2 yn y sir.
O ddiddordeb i ni yn Rhiwiau, mae Cigydd Bengoch ar ein comin agosaf uwchben y tŷ – Mynydd ystyfflau carn. Wel, oedd Cigydd Bengoch – ym mis Mehefin – a dyw e ddim yn edrych fel dod yn ddigwyddiad rheolaidd. Enw saesneg yr aderyn hwn – yw Woodchat Shrike – wedi’i ddosbarthu yn “vagrant” – sef ymwelydd anghyffredin iawn a hoffai mwy na thebeg fod rywle arall – brodor de Ewrop ac Affrica yn fwy arferol. Felly cofnod diddorol ond heb fod yn arwyddocaol o ran iechyd a chyflwr bywyd gwyllt a natur yn gyffredinol.
Cigydd? Mae’r genws yn gyfreddinol yn enwog am drywanu creaduriaid a ddalir ar bigau drain i’w lladd – er nad yw ein Cigydd Bengoch yn ei wneud gan amlaf.
By Charles J. Sharp – Own work, CC BY-SA 4.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=118014542
Gwelir yr aderyn uchod yn Sbaen.
Diolch – diddorol iawn. Gobeithio bydd cyfnodau pellach yn y dyfodol.
DIolch – bydd, yn sicr.